Hamper Pamper #3
£50.00
Mae Hamper Pamper arbennig Cwt Tatws yn anrheg hollol hyfryd i chi eich hunain neu i rywun arbennig.
Mewn bocs llwyd gyda ‘sgrifen aur, sydd yn werth ei gadw, mae’r Hamper yn llawn o eitemau moethus i fwytho’r corff a’r enaid.
Mae’r hamper yma yn cynnwys Maneg Baddon, Ewyn Baddon, Sebon, Cannwyll Fawr, Ffeil Ewinedd, Clipyrs Ewinedd a pecyn o gadachau Meraki.
Wrth archebu mae croeso ichi nodi pa arogleuon ydi’r gorau gennych o’n dewis helaeth, – Rhosyn, Lafan, Tê Gwyrdd, Amber, Jasmin a Clychau’r Gog. Os digwydd bod nad ydi un o’r eitemau yn y llun ar gael, mi fydda ni wrth gwrs yn rhoi rhywbeth arall yn y bocs sydd yr un mor hyfryd.
Mewn stoc