{"id":1622,"date":"2012-09-06T11:37:13","date_gmt":"2012-09-06T11:37:13","guid":{"rendered":"http:\/\/www.cwt-tatws.co.uk\/?page_id=1622"},"modified":"2025-03-07T14:33:25","modified_gmt":"2025-03-07T14:33:25","slug":"telerau-ac-amodau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cwt-tatws.co.uk\/cy\/telerau-ac-amodau\/","title":{"rendered":"Telerau ac Amodau"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r ddogfen hon, ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt, yn datgan Telerau ac Amodau Masnachu Cwt Tatws.\u00a0Efallai y byddwn yn diweddaru\u2019r Telerau a\u2019r Amodau Masnachu hyn (a\u2019r unrhyw dogfennau y cyfeirir atynt ynddynt) o dro i dro, a byddwn yn rhoi gwybod am newidiadau o\u2019r fath drwy eu llwytho i\u2019n gwefan.\u00a0Drwy ddefnyddio ein gwefan <a href=\"https:\/\/www.cwt-tatws.co.uk\">www.cwt-tatws.co.uk<\/a> rydych yn cytuno i gadw at y Telerau a\u2019r Amodau Masnachu hyn.<\/p>\n<h3>Diffiniadau a Hunaniaeth<\/h3>\n<p><strong>Cwt Tatws<\/strong> yw enw masnachu <strong>Daloni Owen,<\/strong> Fferm Towyn, Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8PD<\/p>\n<p>Mae ein siop ni wedi\u2019i lleoli yn y Cwt Tatws ar y fferm.<\/p>\n<p><strong>Chi<\/strong> ein cwsmer: y person sy\u2019n prynu neu\u2019n cytuno i brynu gan Cwt Tatws.<\/p>\n<p><strong>Cyflenwr <\/strong>unrhyw drydydd parti y mae Cwt Tatws wedi prynu neu sicrhau nwyddau neu wasanaethau ganddo ar gyfer eu gwerthu ymlaen i chi.<\/p>\n<p><strong>Nwyddau<\/strong> yr eitemau yr ydych chi\u2019n cytuno i\u2019w prynu gan Cwt Tatws.<\/p>\n<p><strong>Pris<\/strong> y pris am y nwyddau<\/p>\n<p>Nid yw\u2019r prisiau a ddangosir yn cynnwys costau dosbarthu ond maent yn cynnwys TAW, a godir ar gyfradd o 20% ar hyn o bryd, a gall amrywio o dro i dro.<\/p>\n<p>Ychwanegir y pris postio a phacio wrth y til.<\/p>\n<p>Mae Cwt Tatws yn cadw\u2019r hawl i newid unrhyw brisiau a hysbysebir ar unrhyw adeg.<\/p>\n<h3>Mynediad i\u2019n gwefan ni<\/h3>\n<p>Caniateir mynediad i\u2019n gwefan ni ar sail dros dro, ac rydym yn cadw\u2019r hawl i ddiwygio neu dynnu\u2019r gwasanaethau rydyn ni\u2019n eu cynnig drwy\u2019r wefan yn eu h\u00f4l heb rybudd.\u00a0 Ni fyddwn yn atebol os nad yw\u2019r wefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm.<\/p>\n<p>O dro i dro, efallai y byddwn yn cyfyngu ar fynediad i rai rhannau o\u2019r wefan, neu\u2019r wefan gyfan.<\/p>\n<h3>Hawlfreintiau a pherchnogaeth<\/h3>\n<p>Mae\u2019r wefan hon a\u2019i chynnwys yn eiddo i Cwt Tatws. Gwaherddir unrhyw ddefnydd o\u2019r wefan hon neu ei chynnwys at ddibenion masnachol heb ganiat\u00e2d ymlaen llaw, gan gynnwys cop\u00efo a storio lluniau.\u00a0 Ni chewch addasu, dileu, dosbarthu na phostio unrhyw beth yn y wefan hon at unrhyw bwrpas.<\/p>\n<h3>Talu<\/h3>\n<p>Gellir gwneud taliadau am archebion drwy\u2019r wefan drwy Sage pay using Visa, MasterCard, Delta, Visa Electron, Solo a Switch. Debydir y taliad o\u2019ch cyfrif ar unwaith gan Sage Pay, wrth i chi wneud eich archeb. Mae taliad ar ffurf i Cwt Tatws yn dderbyniol hefyd.<\/p>\n<p>Fel dewis arall cewch archebu dros y ff\u00f4n ar 01758 770 600 a gallwn gymryd eich archeb a\u2019ch manylion talu.<\/p>\n<p>Mae Cwt Tatws yn cynnig system gwbl ddiogel ar gyfer talu.<\/p>\n<h3>Dosbarthu<\/h3>\n<p>C\u00f4st postio ar y rhan fwyaf o eitemau ydi<strong> \u00a35.95<\/strong> ond os ydi&#8217;r eitem yn fawr fe fydda &#8216;na g\u00f4st cludiant ychwanegol. Fe fydd y c\u00f4st hwnnw yn cael ei gadarnhau gyda chi cyn i&#8217;r eitem gael ei yrru atoch.5Fel arfer bydd y nwyddau\u2019n cael eu dosbarthu o fewn 2 ddiwrnod gwaith i dderbyn eich archeb os yw\u2019r cynnyrch mewn stoc, neu\u2019n gynt os yn bosib. (Ac eithrio Gwyliau Banc a phenwythnosau ar dir mawr y DU). Mi ryda ni&#8217;n dosbarthu gan ddefnyddio y Post Brenhinol, Parcelforce neu negesydd. Os nad yw unrhyw rai o&#8217;r nwyddau gennym ni mewn stoc, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth fydd y dyddiad dosbarthu yn fras.<\/p>\n<p>Er hynny, efallai bydd rhai eitemau allan o stoc neu ar archeb arbennig, ac os felly, mi fydda ni&#8217;n cysylltu \u00e2 chi yn syth i drafod. \u00a0O dan yr amgylchiadau hyn, gall gymryd hyd at 30 diwrnod i ddosbarthu eich nwyddau.<\/p>\n<p>Unwaith y byddwn ni wedi anfon y nwyddau, ni allwn fod yn atebol am unrhyw oedi gan y post ac, yn y cyswllt hwn, ni fyddwn yn llunio unrhyw gytundeb iawndal oherwydd bod eitem wedi\u2019i dosbarthu\u2019n hwyr.<\/p>\n<p>Darperir yr wybodaeth am ddosbarthu fel canllaw yn unig, ac nid yw\u2019n ymrwymol.<\/p>\n<h3>Amodau s\u00eal a gostyngiadau<\/h3>\n<p>Ni ellir rhoi dyddiad yn \u00f4l neu ymlaen ar archebion a wneir yn ystod ein s\u00eal.<\/p>\n<h3>Canslo<\/h3>\n<p>Mae gennych chi hawl gyfreithiol i ganslo eich archeb o fewn saith niwrnod gwaith i dderbyn y nwyddau o dan y Rheoliadau Gwerthu o Bell. Er hynny, rydych chi\u2019n gyfrifol am ddychwelyd y nwyddau atom ni yn y cyflwr y cawsant eu dosbarthu a chi fydd yn gyfrifol am gost hynny hefyd. Rydym yn cadw\u2019r hawl i wrthod caniat\u00e1u i chi ddychwelyd nwyddau nad ydynt mewn cyflwr o\u2019r fath. Yn yr un modd, rydym yn cadw\u2019r hawl i gynnig eitem arall neu ad-daliad, yn unol \u00e2\u2019n disgresiwn ni.<\/p>\n<h3>Polisi Dychwelyd Nwyddau<\/h3>\n<p>Os ydych chi\u2019n dymuno dychwelyd eitem, mae\u2019n rhaid i ni ei derbyn yn \u00f4l yn ein siop yn y cyflwr y mae wedi cael ei dosbarthu ac o fewn wyth niwrnod ar hugain i dderbyn ad-daliad neu eitem arall yn lle\u2019r eitem hon. Rydym yn gofyn i chi ddychwelyd yr eitemau os gwelwch yn dda yn eu pecynnau gwerthu gwreiddiol. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol. Gan mai eich cyfrifoldeb chi yw\u2019r nwyddau nes eu bod yn cyrraedd ein siop ni, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn pacio\u2019r eitemau rydych yn eu dychwelyd mewn ffordd sy\u2019n atal unrhyw ddifrod i\u2019r eitemau neu&#8217;r bocsys.<\/p>\n<p>Rydym yn cadw\u2019r hawl i wrthod caniat\u00e1u i chi ddychwelyd nwyddau sydd wedi cael eu difrodi am nad oeddent wedi cael eu hailbacio\u2019n briodol.<\/p>\n<p>Ac eithrio nwyddau diffygiol a nwyddau sydd wedi\u2019u difrodi, nid ydym yn gyfrifol am gostau postio wrth ddychwelyd nwyddau ac rydym yn argymell eich bod yn sicrhau tystysgrif postio rhag ofn i&#8217;r parsel fethu ein cyrraedd ni.<\/p>\n<p>Os ydych yn dymuno canslo eich archeb a\u2019i dychwelyd atom ni, o dan y Rheoliadau Gwerthu o Bell, mae\u2019n rhaid i chi roi gwybod i ni o fewn saith niwrnod gwaith i dderbyn eich parsel. Gellir gwneud hyn drwy ein ffonio ni ar 01758 770 600 neu drwy e-bost ar <a href=\"mailto:daloni@cwt-tatws.co.uk\">daloni@cwt-tatws.co.uk<\/a> Yna bydd rhaid i chi ddychwelyd yr archeb gyfan atom ni, gan dalu am hynny eich hun os ydych chi eisoes wedi\u2019i derbyn. Unwaith y byddwn ni\u2019n derbyn yr archeb gyfan yn ei h\u00f4l, byddwn yn gwneud ad-daliad llawn, gan gynnwys y pris dosbarthu gwreiddiol.<\/p>\n<p>Cofiwch y gall gymryd hyd at 21 diwrnod i brosesu unrhyw eitem a ddychwelir.<\/p>\n<p>Rydym yn argymell eich bod yn sicrhau Tystysgrif Postio rhag ofn i\u2019r parsel(i) beidio \u00e2\u2019n cyrraedd ni am unrhyw reswm.<\/p>\n<p>Dychwelwch unrhyw nwyddau i Cwt Tatws, Fferm Towyn, Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8PD.<\/p>\n<p><strong>S\u00eal Terfynol:<\/strong> Ni ellir dychwelyd na chyfnewid unrhyw eitem sydd yn y s\u00eal terfynol.<\/p>\n<h3>Prisiau<\/h3>\n<p>Nid yw\u2019r prisiau a ddangosir yn cynnwys costau dosbarthu ond maent yn cynnwys TAW, a godir ar gyfradd o 20% ar hyn o bryd, a gall amrywio o dro i dro.<\/p>\n<p>Ychwanegir y pris postio a phacio wrth y til.<\/p>\n<p>Mae Cwt Tatws yn cadw\u2019r hawl i newid unrhyw brisiau a hysbysebir ar unrhyw adeg.<\/p>\n<h3>Gwrthod Prosesu Archeb\u00a0<\/h3>\n<p>Efallai y byddwn yn gwrthod prosesu archeb am unrhyw reswm, neu\u2019n gwrthod gwasanaeth i unrhyw un ar unrhyw adeg, yn unol \u00e2\u2019n disgresiwn ni ein hunain.<\/p>\n<h3>Risg <\/h3>\n<p>Mae\u2019r risg yn trosglwyddo i chi wrth i\u2019r Nwyddau gael eu dosbarthu.<\/p>\n<p>Pan mae nwyddau\u2019n cael eu dosbarthu i chi\u2019n uniongyrchol gan unrhyw un sy\u2019n cyflenwi Cwt Tatws, mae&#8217;r risg o ran y nwyddau&#8217;n trosglwyddo i chi wrth iddynt gael eu dosbarthu.<\/p>\n<p>Er bod y nwyddau wedi cael eu dosbarthu, ni fydd perchnogaeth y Nwyddau\u2019n trosglwyddo o Cwt Tatws nes eich bod chi wedi talu\u2019r Pris a\u2019r TAW\u00a0 yn llawn.<\/p>\n<p>Mae hyn yn golygu bod yr holl nwyddau\u2019n parhau\u2019n eiddo i Cwt Tatws nes eich bod wedi talu YN LLAWN amdanynt.<\/p>\n<p>Hyd nes bod perchnogaeth y Nwyddau\u2019n trosglwyddo o Cwt Tatws, fe fyddwch chi, ar gais, yn cyflwyno&#8217;r Nwyddau i ni. Os byddwch yn methu gwneud hynny, gall Cwt Tatws, neu ei gynrychiolwyr, ddod i unrhyw eiddo yr ydych chi\u2019n berchen arno, yn preswylio ynddo neu\u2019n ei reoli, a ble mae\u2019r Nwyddau wedi\u2019u lleoli ynddo, ac adfeddiannu\u2019r Nwyddau neu eiddo arall sy\u2019n cyfateb i\u2019r Nwyddau o ran gwerth.<\/p>\n<h3>Preifatrwydd Data<\/h3>\n<p>Cedwir yr wybodaeth am gwsmeriaid yn gwbl gyfrinachol ar weinyddion diogel sydd wedi\u2019u hamgryptio. Nid yw Cwt Tatws yn cadw unrhyw wybodaeth am gardiau credyd ac nid ydym ac ni fyddwn yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti.<\/p>\n<p>Rydym yn cadw at ofynion Deddf Diogelu Data 1998.<\/p>\n<h3>Rheoliadau Offer Trydan ac Electronig Gwastraff\u00a0<\/h3>\n<p>Mae\u2019r Gyfarwyddeb Offer Trydan ac Electronig Gwastraff yn gyfraith yn y DU yn awr. Mae&#8217;r rheoliadau\u2019n golygu bod rhaid i gyflenwyr offer, fel siopau&#8217;r stryd fawr ac adwerthwyr ar y rhyngrwyd, ganiat\u00e1u i ddefnyddwyr ddychwelyd eu hoffer gwastraff am ddim.<\/p>\n<p>Mae\u2019r offer trydan ac electronig gwastraff rydyn ni\u2019n ei daflu\u2019n cynyddu tua 5% y flwyddyn, ac felly dyma\u2019r ffrwd wastraff sy\u2019n cynyddu gyflymaf yn y DU. Mae ailgylchu\u2019n lleihau pob risg amgylcheddol ac iechyd sy\u2019n gysylltiedig ag anfon nwyddau trydan i safleoedd claddu sbwriel.<\/p>\n<p>Mae gorfodaeth gyfreithiol arnom ni o dan y rheoliadau hyn i gynnig cymryd eu hoffer trydan ac electronig gwastraff yn \u00f4l gan gwsmeriaid am ddim, ar sail tebyg-am-debyg, pan maent yn prynu cynnyrch Trydan neu Electronig newydd gennym ni. Mae\u2019n rhaid i gwsmeriaid ddychwelyd eu heitem drydan neu electronig wastraff tebyg-am-debyg atom ni o fewn 28 niwrnod i brynu eitem newydd. O dan y Rheoliadau Offer Trydan ac Electronig Gwastraff, dylid marcio pob nwydd trydan newydd gyda\u2019r symbol bin olwynion \u00e2 chroes drosto a dylid cael gwared arno ar wah\u00e2n i wastraff normal y cartref.<\/p>\n<h3>Gallwch ailgylchu eich hen nwyddau trydan gyda ni<\/h3>\n<p>Rhowch yr eitem yn y post a\u2019i dychwelyd i: <strong>Cwt Tatws<\/strong>, Fferm Towyn, Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8PD.\u00a0<\/p>\n<p>Fel dewis arall, gallwch ddod \u00e2\u2019r eitem yn bersonol i\u2019r un cyfeiriad a byddwn yn cael gwared arni i chi. Y cwsmer sy\u2019n gorfod talu\u2019r holl gostau postio a phacio am ddychwelyd yr eitem i\u2019w hailgylchu.<\/p>\n<h3>Hawlildiad<\/h3>\n<p>Ni fydd unrhyw gyfaddawdu na chyfyngu mewn perthynas \u00e2 hawliau Cwt Tatws yn sgil unrhyw oddefgarwch neu faddeugarwch a ddangosir ganddo tuag atoch chi, ac ni fydd unrhyw hawlildiad mewn perthynas ag unrhyw doramod penodol yn gweithredu fel hawlildiad o unrhyw doramod dilynol.<\/p>\n<h3>Terfynu<\/h3>\n<p>Bydd unrhyw ddarpariaeth yn y cytundeb hwn sydd, neu a fydd efallai, yn ddi-rym neu\u2019n amhosib i\u2019w orfodi, yn cael ei ystyried, yn unol \u00e2 graddfa dirymedd o\u2019r fath ac amhosibilrwydd y gorfodi, yn derfynadwy ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw ddarpariaeth arall yn y cytundeb hwn.<\/p>\n<h3>Cyffredinol<\/h3>\n<p>Mae Cwt Tatws yn gwarantu y bydd y Nwyddau a gyflenwir yn cyfateb, wrth eu dosbarthu, i\u2019r disgrifiad yn y wefan hon. Ac eithrio pan fo\u2019r Prynwr yn delio fel defnyddiwr (fel y diffinnir o dan Adran 12 o Ddeddf Telerau Cytundeb Annheg 1977 a\/neu Reoliadau Telerau Annheg mewn Cytundebau Defnyddwyr 1999, Rheoliad 3(1)), eithrir pob gwarant arall, a&#8217;r holl delerau ac amodau eraill perthnasol i ansawdd neu gyflwr y Nwyddau, neu eu haddasrwydd i bwrpas, boed yn cael eu mynegi neu eu hawgrymu gan statud neu gyfraith gyffredin neu fel arall, i\u2019r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.<\/p>\n<p>Ni fydd Cwt Tatws yn atebol mewn unrhyw ffordd am unrhyw golled a\/neu gostau anuniongyrchol sy\u2019n codi wrth i ni dorri\u2019r cytundeb hwn.<\/p>\n<p>Os byddwn ni\u2019n torri\u2019r cytundeb hwn mewn unrhyw ffordd, bydd yr unioni a wneir \u00e2 chi\u2019n gyfyngedig i iawndal yn unig.\u00a0 Ni fydd ein hatebolrwydd, o dan unrhyw amgylchiadau, yn fwy na phris uchaf yr eitem(au) penodol a gyflenwyd neu swm unrhyw yswiriant dilys sydd ar gael i setlo&#8217;r hawliad.<\/p>\n<p>Ni fydd Cwt Tatws yn atebol am unrhyw fethu neu oedi o ran cyflawni unrhyw rai o\u2019i ymrwymiadau os bydd y cyflawni hwnnw\u2019n cael ei atal, ei rwystro neu ei lesteirio gan amgylchiadau neu ddigwyddiadau y tu hwnt i\u2019w reolaeth resymol, ac mae\u2019r un peth yn wir am unrhyw oedi neu sefyllfa aneconomaidd y tu hwnt i\u2019w reolaeth resymol.<\/p>\n<p>Ni fydd darpariaethau Deddf Cytundebau (Hawliau Trydydd Bart\u00efon) 1999 yn berthnasol i\u2019r cytundeb hwn ac ni fydd gan unrhyw berson nad yw\u2019n rhan o\u2019r cytundeb hwn unrhyw hawl o dan y Ddeddf honno i orfodi unrhyw rai o delerau\u2019r cytundeb.<\/p>\n<p>Ni fydd y naill barti na\u2019r llall yn atebol am unrhyw ddiffygdaliad oherwydd unrhyw weithred gan Dduw, rhyfel, aflonyddwch sifil, difrod maleisus, streic, cau allan, gweithredu diwydiannol, t\u00e2n, llifogydd, sychdwr, tywydd eithafol, cydymffurfiaeth ag unrhyw ddeddf neu orchymyn, rheol, rheoliad, cyfarwyddyd llywodraethol neu unrhyw amgylchiadau eraill y tu hwnt i reolaeth resymol y naill barti neu&#8217;r llall (&#8216;Digwyddiad Force Majeure\u2019).<\/p>\n<p>Bydd pob parti\u2019n rhoi rhybudd ar unwaith i\u2019r llall pan ddaw\u2019n ymwybodol o Ddigwyddiad Force Majeure: y rhybudd i roi manylion am yr amgylchiadau sy\u2019n arwain at Ddigwyddiad Force Majeure.<\/p>\n<p>Llywodraethir yr amodau hyn a phob cytundeb rhwng Cwt Tatws a chi gan Gyfraith Cymru a Lloegr, ac maent yn cael eu llunio yn unol \u00e2\u2019r Gyfraith hon, a bydd unrhyw anghydfod yn dod o dan awdurdodaeth Llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r ddogfen hon, ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt, yn datgan Telerau ac Amodau Masnachu Cwt Tatws.\u00a0Efallai y byddwn yn diweddaru\u2019r Telerau a\u2019r Amodau Masnachu hyn (a\u2019r unrhyw dogfennau y cyfeirir atynt ynddynt) o dro i dro, a byddwn yn rhoi gwybod am newidiadau o\u2019r fath drwy eu llwytho i\u2019n gwefan.\u00a0Drwy ddefnyddio ein [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1622","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cwt-tatws.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1622","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cwt-tatws.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cwt-tatws.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cwt-tatws.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cwt-tatws.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1622"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.cwt-tatws.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1622\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cwt-tatws.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1622"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}