post@cwt-tatws.co.uk

Ein Stori

Croeso i Cwt Tatws

Ein Stori

Mae ein casgliad yn cynnig amrywiaeth eang ac eclectig o anrhegion, addurniadau, gemwaith a dodrefn a’r cwbl wedi ei ddethol yn ofalus o Gymru, Ewrop a thu hwnt.

Mae Cwt Tatws wedi ei leoli dafliad carreg o’r môr yma yn Nhudweiliog ym Mhen Llŷn. Mae llwybr yr arfordir ychydig lathenni o’r drws ac mi gymerith hi ddau funud ichi gerdded lawr at y traeth hir melyn.

Ein nod ydi cynnig y gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid, a rhoi croeso cynnes Cymreig ichi gyd. Yn ogystal â’r siop sydd â chasgliad helaeth o bethau cwbl hyfryd i chi a’ch cartref, mae Caffi Tatws yn le da am baned a sgwrs.

Mae ein casgliad yn cynnig amrywiaeth eang ac eclectig o anrhegion, addurniadau, gemwaith a dodrefn a’r cwbl wedi ei ddethol yn ofalus o Gymru, Ewrop a thu hwnt.

Mae Cwt Tatws wedi ei leoli dafliad carreg o’r môr yma yn Nhudweiliog ym Mhen Llŷn. Mae llwybr yr arfordir ychydig lathenni o’r drws ac mi gymerith hi ddau funud ichi gerdded lawr at y traeth hir melyn.

Ein nod ydi cynnig y gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid, a rhoi croeso cynnes Cymreig ichi gyd.

Yn ogystal â’r siop sydd â chasgliad helaeth o bethau cwbl hyfryd i chi a’ch cartref, mae Caffi Tatws yn le da am baned a sgwrs.