Mae Cwt Tatws yn siop unigryw sydd wedi’i lleoli reit ar lan y môr yn Nhudweiliog ym Mhen Llŷn. Mi ryda ni’n crwydro yn bell ac yn agos i greu casgliad gwreiddiol o gynnyrch i’r cartref, dillad, harddwch, gemwaith ac anrhegion.
‘Da ni’n caru’r lle yma, gobeithio y gwnewch chi ei fwynhau hefyd.
CAFFI CWT TATWS
Cynnyrch lleol
Bwyd syml, blasus a thymhorol sydd yn cael ei weini yma.
Mae’r pwyslais ar y lleol, o’r baned goffi i’r frechdan ham, mae’r cynhwysion mor agos at adre ag sydd bosibl.
Mae croeso ichi ymlacio tu fewn o flaen tanllwyth o dân, neu fwyta allan a mwynhau yr olygfa odidog.