01758 770600

Telerau ac Amodau

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon, ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt, yn datgan Telerau ac Amodau Masnachu Cwt Tatws. Efallai y byddwn yn diweddaru’r Telerau a’r Amodau Masnachu hyn (a’r unrhyw dogfennau y cyfeirir atynt ynddynt) o dro i dro, a byddwn yn rhoi gwybod am newidiadau o’r fath drwy eu llwytho i’n gwefan. Drwy ddefnyddio ein gwefan www.cwt-tatws.co.uk rydych yn cytuno i gadw at y Telerau a’r Amodau Masnachu hyn.

Diffiniadau a Hunaniaeth

Cwt Tatws yw enw masnachu Daloni Owen, Fferm Towyn, Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8PD

Mae ein siop ni wedi’i lleoli yn y Cwt Tatws ar y fferm.

Chi ein cwsmer: y person sy’n prynu neu’n cytuno i brynu gan Cwt Tatws.

Cyflenwr unrhyw drydydd parti y mae Cwt Tatws wedi prynu neu sicrhau nwyddau neu wasanaethau ganddo ar gyfer eu gwerthu ymlaen i chi.

Nwyddau yr eitemau yr ydych chi’n cytuno i’w prynu gan Cwt Tatws.

Pris y pris am y nwyddau

Nid yw’r prisiau a ddangosir yn cynnwys costau dosbarthu ond maent yn cynnwys TAW, a godir ar gyfradd o 20% ar hyn o bryd, a gall amrywio o dro i dro.

Ychwanegir y pris postio a phacio wrth y til.

Mae Cwt Tatws yn cadw’r hawl i newid unrhyw brisiau a hysbysebir ar unrhyw adeg.

Mynediad i’n gwefan ni

Caniateir mynediad i’n gwefan ni ar sail dros dro, ac rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio neu dynnu’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig drwy’r wefan yn eu hôl heb rybudd.  Ni fyddwn yn atebol os nad yw’r wefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm.

O dro i dro, efallai y byddwn yn cyfyngu ar fynediad i rai rhannau o’r wefan, neu’r wefan gyfan.

Hawlfreintiau a pherchnogaeth

Mae’r wefan hon a’i chynnwys yn eiddo i Cwt Tatws. Gwaherddir unrhyw ddefnydd o’r wefan hon neu ei chynnwys at ddibenion masnachol heb ganiatâd ymlaen llaw, gan gynnwys copïo a storio lluniau.  Ni chewch addasu, dileu, dosbarthu na phostio unrhyw beth yn y wefan hon at unrhyw bwrpas.

Talu

Gellir gwneud taliadau am archebion drwy’r wefan drwy Sage pay using Visa, MasterCard, Delta, Visa Electron, Solo a Switch. Debydir y taliad o’ch cyfrif ar unwaith gan Sage Pay, wrth i chi wneud eich archeb. Mae taliad ar ffurf i Cwt Tatws yn dderbyniol hefyd.

Fel dewis arall cewch archebu dros y ffôn ar 01758 770 600 a gallwn gymryd eich archeb a’ch manylion talu.

Mae Cwt Tatws yn cynnig system gwbl ddiogel ar gyfer talu.

Dosbarthu

Côst postio ar y rhan fwyaf o eitemau ydi £2.95 ond os ydi’r eitem yn fawr fe fydda ‘na gôst cludiant ychwanegol. Fe fydd y côst hwnnw yn cael ei gadarnhau gyda chi cyn i’r eitem gael ei yrru atoch.

Fel arfer bydd y nwyddau’n cael eu dosbarthu o fewn 2 ddiwrnod gwaith i dderbyn eich archeb os yw’r cynnyrch mewn stoc, neu’n gynt os yn bosib. (Ac eithrio Gwyliau Banc a phenwythnosau ar dir mawr y DU). Mi ryda ni’n dosbarthu gan ddefnyddio y Post Brenhinol, Parcelforce neu negesydd. Os nad yw unrhyw rai o’r nwyddau gennym ni mewn stoc, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth fydd y dyddiad dosbarthu yn fras.

Er hynny, efallai bydd rhai eitemau allan o stoc neu ar archeb arbennig, ac os felly, mi fydda ni’n cysylltu â chi yn syth i drafod.  O dan yr amgylchiadau hyn, gall gymryd hyd at 30 diwrnod i ddosbarthu eich nwyddau.

Unwaith y byddwn ni wedi anfon y nwyddau, ni allwn fod yn atebol am unrhyw oedi gan y post ac, yn y cyswllt hwn, ni fyddwn yn llunio unrhyw gytundeb iawndal oherwydd bod eitem wedi’i dosbarthu’n hwyr.

Darperir yr wybodaeth am ddosbarthu fel canllaw yn unig, ac nid yw’n ymrwymol.

Amodau sêl a gostyngiadau

Ni ellir rhoi dyddiad yn ôl neu ymlaen ar archebion a wneir yn ystod ein sêl.

Canslo

Mae gennych chi hawl gyfreithiol i ganslo eich archeb o fewn saith niwrnod gwaith i dderbyn y nwyddau o dan y Rheoliadau Gwerthu o Bell. Er hynny, rydych chi’n gyfrifol am ddychwelyd y nwyddau atom ni yn y cyflwr y cawsant eu dosbarthu a chi fydd yn gyfrifol am gost hynny hefyd. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod caniatáu i chi ddychwelyd nwyddau nad ydynt mewn cyflwr o’r fath. Yn yr un modd, rydym yn cadw’r hawl i gynnig eitem arall neu ad-daliad, yn unol â’n disgresiwn ni.

Polisi Dychwelyd Nwyddau

Os ydych chi’n dymuno dychwelyd eitem, mae’n rhaid i ni ei derbyn yn ôl yn ein siop yn y cyflwr y mae wedi cael ei dosbarthu ac o fewn wyth niwrnod ar hugain i dderbyn ad-daliad neu eitem arall yn lle’r eitem hon. Rydym yn gofyn i chi ddychwelyd yr eitemau os gwelwch yn dda yn eu pecynnau gwerthu gwreiddiol. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol. Gan mai eich cyfrifoldeb chi yw’r nwyddau nes eu bod yn cyrraedd ein siop ni, gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio’r eitemau rydych yn eu dychwelyd mewn ffordd sy’n atal unrhyw ddifrod i’r eitemau neu’r bocsys.

Rydym yn cadw’r hawl i wrthod caniatáu i chi ddychwelyd nwyddau sydd wedi cael eu difrodi am nad oeddent wedi cael eu hailbacio’n briodol.

Ac eithrio nwyddau diffygiol a nwyddau sydd wedi’u difrodi, nid ydym yn gyfrifol am gostau postio wrth ddychwelyd nwyddau ac rydym yn argymell eich bod yn sicrhau tystysgrif postio rhag ofn i’r parsel fethu ein cyrraedd ni.

Os ydych yn dymuno canslo eich archeb a’i dychwelyd atom ni, o dan y Rheoliadau Gwerthu o Bell, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni o fewn saith niwrnod gwaith i dderbyn eich parsel. Gellir gwneud hyn drwy ein ffonio ni ar 01758 770 600 neu drwy e-bost ar daloni@cwt-tatws.co.uk Yna bydd rhaid i chi ddychwelyd yr archeb gyfan atom ni, gan dalu am hynny eich hun os ydych chi eisoes wedi’i derbyn. Unwaith y byddwn ni’n derbyn yr archeb gyfan yn ei hôl, byddwn yn gwneud ad-daliad llawn, gan gynnwys y pris dosbarthu gwreiddiol.

Cofiwch y gall gymryd hyd at 21 diwrnod i brosesu unrhyw eitem a ddychwelir.

Rydym yn argymell eich bod yn sicrhau Tystysgrif Postio rhag ofn i’r parsel(i) beidio â’n cyrraedd ni am unrhyw reswm.

Dychwelwch unrhyw nwyddau i Cwt Tatws, Fferm Towyn, Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8PD.

Prisiau

Nid yw’r prisiau a ddangosir yn cynnwys costau dosbarthu ond maent yn cynnwys TAW, a godir ar gyfradd o 20% ar hyn o bryd, a gall amrywio o dro i dro.

Ychwanegir y pris postio a phacio wrth y til.

Mae Cwt Tatws yn cadw’r hawl i newid unrhyw brisiau a hysbysebir ar unrhyw adeg.

Gwrthod Prosesu Archeb       

Efallai y byddwn yn gwrthod prosesu archeb am unrhyw reswm, neu’n gwrthod gwasanaeth i unrhyw un ar unrhyw adeg, yn unol â’n disgresiwn ni ein hunain.

Risg / Teitl                                    

Mae’r risg yn trosglwyddo i chi wrth i’r Nwyddau gael eu dosbarthu.

Pan mae nwyddau’n cael eu dosbarthu i chi’n uniongyrchol gan unrhyw un sy’n cyflenwi Cwt Tatws, mae’r risg o ran y nwyddau’n trosglwyddo i chi wrth iddynt gael eu dosbarthu.

Er bod y nwyddau wedi cael eu dosbarthu, ni fydd perchnogaeth y Nwyddau’n trosglwyddo o Cwt Tatws nes eich bod chi wedi talu’r Pris a’r TAW  yn llawn.

Mae hyn yn golygu bod yr holl nwyddau’n parhau’n eiddo i Cwt Tatws nes eich bod wedi talu YN LLAWN amdanynt.

Hyd nes bod perchnogaeth y Nwyddau’n trosglwyddo o Cwt Tatws, fe fyddwch chi, ar gais, yn cyflwyno’r Nwyddau i ni. Os byddwch yn methu gwneud hynny, gall Cwt Tatws, neu ei gynrychiolwyr, ddod i unrhyw eiddo yr ydych chi’n berchen arno, yn preswylio ynddo neu’n ei reoli, a ble mae’r Nwyddau wedi’u lleoli ynddo, ac adfeddiannu’r Nwyddau neu eiddo arall sy’n cyfateb i’r Nwyddau o ran gwerth.

Preifatrwydd Data

Cedwir yr wybodaeth am gwsmeriaid yn gwbl gyfrinachol ar weinyddion diogel sydd wedi’u hamgryptio. Nid yw Cwt Tatws yn cadw unrhyw wybodaeth am gardiau credyd ac nid ydym ac ni fyddwn yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti.

Rydym yn cadw at ofynion Deddf Diogelu Data 1998.

Rheoliadau Offer Trydan ac Electronig Gwastraff 

Mae’r Gyfarwyddeb Offer Trydan ac Electronig Gwastraff yn gyfraith yn y DU yn awr. Mae’r rheoliadau’n golygu bod rhaid i gyflenwyr offer, fel siopau’r stryd fawr ac adwerthwyr ar y rhyngrwyd, ganiatáu i ddefnyddwyr ddychwelyd eu hoffer gwastraff am ddim.

Mae’r offer trydan ac electronig gwastraff rydyn ni’n ei daflu’n cynyddu tua 5% y flwyddyn, ac felly dyma’r ffrwd wastraff sy’n cynyddu gyflymaf yn y DU. Mae ailgylchu’n lleihau pob risg amgylcheddol ac iechyd sy’n gysylltiedig ag anfon nwyddau trydan i safleoedd claddu sbwriel.

Mae gorfodaeth gyfreithiol arnom ni o dan y rheoliadau hyn i gynnig cymryd eu hoffer trydan ac electronig gwastraff yn ôl gan gwsmeriaid am ddim, ar sail tebyg-am-debyg, pan maent yn prynu cynnyrch Trydan neu Electronig newydd gennym ni. Mae’n rhaid i gwsmeriaid ddychwelyd eu heitem drydan neu electronig wastraff tebyg-am-debyg atom ni o fewn 28 niwrnod i brynu eitem newydd. O dan y Rheoliadau Offer Trydan ac Electronig Gwastraff, dylid marcio pob nwydd trydan newydd gyda’r symbol bin olwynion â chroes drosto a dylid cael gwared arno ar wahân i wastraff normal y cartref.

Gallwch ailgylchu eich hen nwyddau trydan gyda ni.

Rhowch yr eitem yn y post a’i dychwelyd i: Cwt Tatws, Fferm Towyn, Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8PD. Fel dewis arall, gallwch ddod â’r eitem yn bersonol i’r un cyfeiriad a byddwn yn cael gwared arni i chi. Y cwsmer sy’n gorfod talu’r holl gostau postio a phacio am ddychwelyd yr eitem i’w hailgylchu.

Hawlildiad 

Ni fydd unrhyw gyfaddawdu na chyfyngu mewn perthynas â hawliau Cwt Tatws yn sgil unrhyw oddefgarwch neu faddeugarwch a ddangosir ganddo tuag atoch chi, ac ni fydd unrhyw hawlildiad mewn perthynas ag unrhyw doramod penodol yn gweithredu fel hawlildiad o unrhyw doramod dilynol.

Terfynu

Bydd unrhyw ddarpariaeth yn y cytundeb hwn sydd, neu a fydd efallai, yn ddi-rym neu’n amhosib i’w orfodi, yn cael ei ystyried, yn unol â graddfa dirymedd o’r fath ac amhosibilrwydd y gorfodi, yn derfynadwy ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw ddarpariaeth arall yn y cytundeb hwn.

Cyffredinol

Mae Cwt Tatws yn gwarantu y bydd y Nwyddau a gyflenwir yn cyfateb, wrth eu dosbarthu, i’r disgrifiad yn y wefan hon. Ac eithrio pan fo’r Prynwr yn delio fel defnyddiwr (fel y diffinnir o dan Adran 12 o Ddeddf Telerau Cytundeb Annheg 1977 a/neu Reoliadau Telerau Annheg mewn Cytundebau Defnyddwyr 1999, Rheoliad 3(1)), eithrir pob gwarant arall, a’r holl delerau ac amodau eraill perthnasol i ansawdd neu gyflwr y Nwyddau, neu eu haddasrwydd i bwrpas, boed yn cael eu mynegi neu eu hawgrymu gan statud neu gyfraith gyffredin neu fel arall, i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.

Ni fydd Cwt Tatws yn atebol mewn unrhyw ffordd am unrhyw golled a/neu gostau anuniongyrchol sy’n codi wrth i ni dorri’r cytundeb hwn.

Os byddwn ni’n torri’r cytundeb hwn mewn unrhyw ffordd, bydd yr unioni a wneir â chi’n gyfyngedig i iawndal yn unig.  Ni fydd ein hatebolrwydd, o dan unrhyw amgylchiadau, yn fwy na phris uchaf yr eitem(au) penodol a gyflenwyd neu swm unrhyw yswiriant dilys sydd ar gael i setlo’r hawliad.

Ni fydd Cwt Tatws yn atebol am unrhyw fethu neu oedi o ran cyflawni unrhyw rai o’i ymrwymiadau os bydd y cyflawni hwnnw’n cael ei atal, ei rwystro neu ei lesteirio gan amgylchiadau neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’w reolaeth resymol, ac mae’r un peth yn wir am unrhyw oedi neu sefyllfa aneconomaidd y tu hwnt i’w reolaeth resymol.

Ni fydd darpariaethau Deddf Cytundebau (Hawliau Trydydd Bartïon) 1999 yn berthnasol i’r cytundeb hwn ac ni fydd gan unrhyw berson nad yw’n rhan o’r cytundeb hwn unrhyw hawl o dan y Ddeddf honno i orfodi unrhyw rai o delerau’r cytundeb.

Ni fydd y naill barti na’r llall yn atebol am unrhyw ddiffygdaliad oherwydd unrhyw weithred gan Dduw, rhyfel, aflonyddwch sifil, difrod maleisus, streic, cau allan, gweithredu diwydiannol, tân, llifogydd, sychdwr, tywydd eithafol, cydymffurfiaeth ag unrhyw ddeddf neu orchymyn, rheol, rheoliad, cyfarwyddyd llywodraethol neu unrhyw amgylchiadau eraill y tu hwnt i reolaeth resymol y naill barti neu’r llall (‘Digwyddiad Force Majeure’).

Bydd pob parti’n rhoi rhybudd ar unwaith i’r llall pan ddaw’n ymwybodol o Ddigwyddiad Force Majeure: y rhybudd i roi manylion am yr amgylchiadau sy’n arwain at Ddigwyddiad Force Majeure.

Llywodraethir yr amodau hyn a phob cytundeb rhwng Cwt Tatws a chi gan Gyfraith Cymru a Lloegr, ac maent yn cael eu llunio yn unol â’r Gyfraith hon, a bydd unrhyw anghydfod yn dod o dan awdurdodaeth Llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

No products in the cart.