Disgrifiad
Daw Gwenllian Ellis yn wreiddiol o Bwllheli ond mae bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae wedi cydweithio ar brosiectau sgwennu gyda Frân Wen a Hansh. Ers 2018, mae ganddi golofn dan yr enw ‘Ledi G’ yng Nghylchgrawn Cara.
Yr artist Elin Lisabeth yw dylunydd y clawr a’r dyluniadau amrywiol oddi fewn i’r gyfrol. Daw Elin yn wreiddiol o Ben Llŷn ond bellach mae’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Graddiodd o Brifysgol Bryste gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Darlunio. Ers hynny mae wedi cael cyfle i arddangos ei gwaith yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw a’r Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.